1 Gwae fi na wyr y forwyn
2 Glodfrys ai llys yn y llwyn
3 Ymddiddan y brawd llygliw
4 Amdani y dydd eddy iw
5 Mi a aethym at y brawd
6 i gyffesv fymhechawd
7 Iddo 'dd addefais od gwn
8 Mai eilvn prydydd oeddwn
9 Am bod erioed yn carv
10 Rhiain wynebwen aelddv
11 Ac na bv ym om llowrvdd
12 les am vnbennes na bvdd
13 Ond i charv'n hir wastad
14 A chvrio'n fawr oi chariad
15 A dwyn i chlod drwy Gymry
16 A bod hebddi er hynny
17 A damvno i chlywed
18 Im gwely rhof ar pared
19 Eb y brawd wrthif yna
20 Mi a rown it gyngor da
21 [135r] O cheraist eiliw ewyn
22 lliw papir oed hir hyd hyn
23 llaesa boen y dydd a ddaw
24 lles yw ith enaid beidiaw
25 A thewi ar cywyddav
26 Ac arfer o th baderav
27 Nid er cywydd nac englyn
28 Y prynodd Duw enaid dyn
29 Nid oes o'ch cerdd chwi'r gler
30 Ond trvth a lleisiav ofer
31 Ac annog gwyr a gwragedd
32 I bechod ac anwiredd
33 Nid da r moliant corphorawl
34 A ddycco'r enaid i ddiawl
35 Minneu a attebais ir brawd
36 Am bob gair ar a ddywawd
37 Nid ydyw Duw mor grevlon
38 Ac y dywaid hen ddynion
39 Ni chyll Duw enaid gwr mwyn
40 Er carv gwraig na morwyn
41 Tripheth a gerir drwy'r byd
42 Gwraig a hinon ac iechyd
43 [136v] Merch sydd decca blodevn
44 Yn y nef ond duw i hvn
45 O wraig y ganed pob dyn
46 Or holl bobloedd ond tridyn
47 Ac am hynny nid rhyfedd
48 carv merched a gwragedd
49 Or nef y cad pob digrifwch
50 Ac o vffern pob Tristwch
51 kerdd a bair yn llawenach
52 hen ac Ievangc claf ac iach
53 cyn rheitied imi brydv
54 ac i tithe bregethv
55 A chyn iawned ym glera
56 Ac i titheu gardotta
57 Pand englynion ac odleu
58 Ywr hymnev ar Seqwensiav
59 A chywydd i Dduw lwyd
60 Yw llaswyr Dafydd broffwyd
61 Nid ar vn bwyd ac enllyn
62 Y mae Duw yn porthi dyn
63 Amser a rodded i fwyd
64 Ac amser i olochwyd
65 Ac amser i bregethv
66 [137r] Ac amser i gynghaneddv
67 kerdd a genir ymmhob gwledd
68 i ddiddanv rhianedd
69 A phader yn yr Eglwys
70 i geisio tir Paradwys
71 Gwir a ddywad Ystutfach
72 Gydai feirdd yn cyfeddach
73 wyneb llawen llawn i dy
74 wyneb trist drwg a ery
75 cyd caro rhai santeiddrwydd
76 Eraill a gar gyfanheddrwydd
77 Anaml a wyr gywydd per
78 A phawb a wyr i bader
79 Ac am hynny 'r dwyfol frawd
80 frawd nid cerdd fydd fwyaf
pechawd
81 Pan fo cystal gan bob dyn
82 glywed pader gan delyn
83 A chan forwynion gwynedd
84 glywed cywydd o faswedd
85 Mi a ganaf myn fy llaw
86 Y pader fyth heb peidiaw
87 [137v] hyd hynny mefl i Ddafydd
88 O chan bader ond cywydd
Da' ap Glm'